Ein gweledigaeth yw Cymru lle nad oes yr un plentyn yn tyfu i fyny’n dlawd, lle mae gan bob person ifanc fynediad at waith, addysg neu hyfforddiant, a lle mae’r economi’n gweithio i’n pobl a’n cymunedau – nid y ffordd arall.

Bydd ein cynllun ar gyfer economi Cymru yn gweld cyfoeth yn cael ei greu, ei gadw a’i ailgylchu yn ein cymunedau, yn hytrach na chael ei anfon y tu allan i Gymru – a hynny mewn rhai achosion ar raddfa enfawr.

Bydd yn annog twf a chynnal busnesau sy’n eiddo i Gymru, gan ddarparu swyddi da, adfywio canol ein trefi, a chodi safonau byw ym mhob man ac i bawb yng Nghymru.

Darllenwch grynodeb o'r cynllun isod, neu gallwch lawrlwytho'r ddogfen gyfan drwy'r ddolen ar waelod y dudalen.

Rhannu'r cynllun ar Facebook
Rhannu'r cynllun ar WhatsApp
Rhannu'r cynllun ar e-bost

Gwneud i Gymru Weithio:

Cynllun Economaidd Newydd Plaid Cymru

Gwell cymorth i fusnesau Cymreig, er mwyn eu helpu nhw i dyfu, a chadw cwmnïau llwyddiannus yma yng Nghymru.

Mae busnesau yng Nghymru yn tueddu i fod yn anghymesur o fach, tra bod y penderfyniadau mawr am ein diwydiannau allweddol - a'r swyddi y maent yn eu cefnogi - yn cael eu gwneud gan gwmnïau sydd wedi'u lleoli y tu allan i Gymru.

Mae hyn yn golygu bod elw yn gadael Cymru, ac rydym yn agored i niwed pan fydd cwmnïau mawr yn torri swyddi neu'n symud gweithrediadau i rywle arall - fel y gwelsom gyda Tata Steel ym Mhort Talbot.

Bydd Plaid Cymru yn newid hyn drwy dyfu mwy o fusnesau Cymreig llwyddiannus a’u cadw yn nwylo Cymreig.

Byddwn yn:

  • Creu Asiantaeth Datblygu Cenedlaethol newydd i Gymru i helpu busnesau Cymreig i dyfu ac aros yn eiddo i Gymru, trwy ddarparu siop un stop ar gyfer cyngor arbenigol a chymorth busnes.
  • Diwygio Banc Datblygu Cymru - gan ei gwneud yn haws i fusnesau Cymru gael gafael ar y cyllid sydd ei angen arnynt i ddatblygu a chynllunio ar gyfer y dyfodol.
  • Hyrwyddo 'Brand Cymru' - denu mewnfuddsoddiad sydd o fudd i'n heconomi a'n cymunedau.
  • Sicrhau bod ein cyrff cyhoeddus yn prynu mwy o’r cynhyrchion a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt gan fusnesau Cymreig.
  • Diwygio ardrethi busnes, i gefnogi’r busnesau Cymreig sydd wrth galon ein strydoedd mawr ac asgwrn cefn ein heconomïau lleol.

Mae hyn yn ymwneud â rhoi’r cymorth sydd ei angen ar fusnesau Cymru i ffynnu. Dyma sut rydym yn adeiladu economi gryfach, decach – un lle mae swyddi da, cyflogau teg, a busnesau llwyddiannus yn aros yng Nghymru.

Annibyniaeth ynni - rheolaeth dros ein hadnoddau naturiol i sicrhau bod ein cymunedau wir yn elwa o ynni adnewyddadwy.

Mae Cymru’n arwain y byd ym maes ynni adnewyddadwy, ond nid ydym yn gweld digon o’r manteision yn ein cymunedau. Mae'r elw yn mynd i ddatblygwyr rhyngwladol a Thrysorlys y Deyrnas Unedig. Ac er gwaethaf faint o ynni glân yr ydym yn ei gynhyrchu, mae prisiau ynni yng Nghymru ymhlith yr uchaf yn y DU.

Mae Ystâd y Goron, sy’n prydlesu gwely môr Cymru ar gyfer ffermydd gwynt ar y môr, yn gwneud miliynau mewn elw o adnoddau naturiol Cymru, ond nid yw’r elw hwn yn aros yng Nghymru. Yn lle hynny, maen nhw'n mynd i Lundain ac yn ariannu'r Teulu Brenhinol. Mae Llywodraeth yr Alban wedi brwydro’n llwyddiannus dros ddatganoli Ystâd y Goron, i wneud yn siŵr bod ei helw o’i hasedau Albanaidd yn aros yn yr Alban. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod ymladd am yr un fargen i Gymru.

Bydd Plaid Cymru yn mynnu datganoli Ystâd y Goron, ar yr un telerau â’r Alban, fel bod yr elw yn aros yng Nghymru.

A byddwn hefyd yn:

  • Diwygio cronfeydd budd cymunedol i sicrhau bod mwy o'r elw o ddatblygiadau ynni adnewyddadwy yn aros ac yn cael ei ail-fuddsoddi yng nghymunedau Cymru.
  • Hwyluso mwy o gydberchnogaeth a pherchnogaeth gymunedol ar brosiectau ynni adnewyddadwy, fel bod cymunedau, cartrefi a busnesau yn teimlo'r manteision yn eu biliau ynni.

Strategaeth sgiliau sy'n addas ar gyfer y dyfodol, fel bod gan bawb y sgiliau sydd eu hangen arnynt i symud ymlaen.

Mae mwy o bobl yng Nghymru sydd ddim mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant nag mewn rhanbarthau a gwledydd eraill yn y DU. Ac ar yr un pryd, mae gormod o fusnesau yng Nghymru yn cael trafferth llenwi eu swyddi gwag.

Mae diffyg cyfatebiaeth yn ein system sgiliau, ac mae’n methu â darparu’r sgiliau gwerthfawr sydd eu hangen ar bobl yng Nghymru – a’n pobl ifanc yn arbennig – i ddod o hyd i waith boddhaus.

Er mwyn creu system sgiliau sy’n gweithio i Gymru, bydd Plaid Cymru yn:

  • Lansio Archwiliad Sgiliau Cenedlaethol i sicrhau bod cyfleoedd addysg a hyfforddiant yn cyd-fynd ag anghenion gwirioneddol cyflogwyr a diwydiannau Cymru, ac yn adlewyrchu cyfleoedd yn economi Cymru yn y dyfodol.
  • Sicrhau bod y gwahanol rannau o'r system sgiliau yn gweithio gyda'i gilydd, fel bod pawb yn cael eu cefnogi'n llawn i gyflawni eu huchelgeisiau a chyflawni eu potensial.

Agwedd newydd a strategol at arloesi wedi'i hategu gan fargen newydd i'n prifysgolion.

Mae Llywodraeth Lafur bresennol Cymru wedi siarad dro ar ôl tro am arloesi, ond nid oes cynllun clir i wneud iddo ddigwydd. Mae angen strategaeth gref, glir ar Gymru i ysgogi arloesedd a defnyddio technoleg a phrosesau newydd i wella cynnyrch a gwasanaethau.

Mae arloesi yn gwneud ein heconomi yn fwy cynhyrchiol, gan olygu mwy o broffidioldeb a swyddi gwell.

Cynllun Plaid Cymru yw cefnogi ein prifysgolion, sef y peiriannau arloesi yng Nghymru, drwy ddarparu setliad cyllid cynaliadwy.

Ar hyn o bryd, mae gormod o gyllid Cymru ar gyfer Addysg Uwch yn mynd i roi cymhorthdal i brifysgolion Lloegr. Mae angen inni ailfeddwl sut yr ydym yn gwario arian ar Addysg Uwch i gefnogi ein myfyrwyr a phrifysgolion yma yng Nghymru yn well.

Bydd Plaid Cymru yn:

  • Adolygu cyllid myfyrwyr i sicrhau bod mwy o'r arian y mae Llywodraeth Cymru yn ei wario ar Addysg Uwch yn aros yma yng Nghymru – er budd ein prifysgolion a'n myfyrwyr.
  • Creu Asiantaeth Arloesedd newydd i gefnogi ymchwil, datblygu ac arloesi.

Cyfoeth yn ein cymunedau ac ar eu cyfer, drwy gefnogi busnesau sy'n eiddo i'r gymuned, mentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol.

Ledled Cymru – o Flaenau Ffestiniog i Flaenau Gwent – mae enghreifftiau o gymunedau yn mynd â’u dyfodol economaidd i’w dwylo eu hunain, drwy sefydlu mentrau cymdeithasol, busnesau cymunedol a chwmnïau cydweithredol.

Oherwydd eu bod wedi’u gwreiddio yn eu cymunedau, mae’r busnesau hyn yn fwy cynaliadwy, ac yn dueddol o ddarparu swyddi o ansawdd gwell dros dymor hwy. Maent yn cyfuno gwneud elw gyda chyfrifoldeb cymdeithasol, gan gadw ailgylchu cyfoeth yn ein pentrefi, trefi a dinasoedd.

Er mwyn cefnogi adeiladu cyfoeth cymunedol yn well yng Nghymru, byddwn yn:

  • Rhoi ‘hawl i brynu’ i gymunedau – ‘first dibs’ ar asedau allweddol fel busnesau, adeiladau a thir pan ddaw’r rhain ar werth, fel y gellir eu dwyn i berchnogaeth gyfunol er budd economïau lleol.
  • Cefnogi modelau busnes cymdeithasol, sy'n eiddo i'r gymuned a rhai cydweithredol, gan gynyddu'r rhain gyda chyllid penodol drwy'r Banc Datblygu.


Cefnogaeth i'r Cynllun

Rhodri Evans
Ffloc, Treganna, Caerdydd

“Mae diwygio trethi busnes i fusnesau bach a chanolig sydd wedi’u lleoli ar strydoedd ein trefi yn gwbl hanfodol i roi hwb i economi Cymru. Dyma’r unig ffordd fydd gan fusnesau bach y stryd fawr unrhyw obaith i gystadlu yn erbyn busnesau sydd wedi’u lleoli ar-lein yn unig. Achos dydi busnesau ar-lein ddim yn talu trethi busnes ar hyn o bryd. Mae’r system fel ag y mae hi wed torri - mae’n hen bryd i bolisïau fel hyn ddal lan.”


Sarah Drummond
Drop Bear Beer Co., Llansamlet, Abertawe

“Mae Drop Bear yn falch o gefnogi Plaid Cymru. Fel busnes bach gyda llawer o uchelgais i dyfu, rydym yn gyffrous i gefnogi gweledigaeth economaidd y Blaid, a fydd yn sicrhau dyfodol mwy llewyrchus, cynaliadwy a theg i bawb yng Nghymru. Credwn ei bod yn amser am newid, ac rydym yn cefnogi Plaid i ddod â’r newid hwnnw!”


Lawrlwytho

Gwneud i Gymru Weithio
Cynllun Economaidd Newydd Plaid Cymru, Ebrill 2025

📝 Lawrlwytho'r adroddiad llawn