Addysg
Crynodeb
- Darparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn o deuluoedd sy’n cael Credyd Cynhwysol, gan ehangu hyn i bob plentyn ysgol gynradd erbyn diwedd ein tymor cyntaf.
- Sefydlu addysg a gofal plant blynyddoedd cynnar o ansawdd byd-eang, gan gynnig 30 awr yr wythnos am ddim i bob plentyn rhwng 24 mis oed ac oedran ysgol.
- Cyflogi 4,500 o athrawon a staff cynorthwyol arbenigol ychwanegol mewn ysgolion ledled Cymru erbyn diwedd ein tymor cyntaf.
- Cynnal adolygiad Gweinidogol o ddarpariaeth ôl-16, gan roi systemau ar waith i roi diwedd ar gystadleuaeth ddiangen mewn addysg ôl-16, a rhoi addysg alwedigaethol ar yr un sylfeini â dysgu academaidd yn yr ysgol a’r brifysgol.
- Lleihau uchafswm y ffi ddysgu y gellir ei chodi ar fyfyrwyr o Gymru ym mhrifysgolion Cymru i £7,500.
- Darparu hawliad dysgu gydol oes ar gyfer ailhyfforddi gwerth £5,000 i bawb dros 25 oed.