Mae llefarydd Plaid Cymru dros Ddiwylliant, Heledd Fychan AS, wedi beirniadu Arweinydd Llafur Cyngor Caerdydd, Huw Thomas, a wnaeth sylwadau "sarhaus a di-sail" neithiwr yn beio staff a Sain Ffagan am heriau sylweddol yr Amgueddfa Genedlaethol.

Wrth siarad ar raglen Y Byd Yn Ei Le ar S4C nos Iau, tynnodd Huw Thomas sylw at y ffaith bod dros £30 miliwn wedi ei wario ar brosiect Sain Ffagan tua phum mlynedd yn ôl, gan ychwanegu y byddai uwch reolwyr yn yr Amgueddfa wedi bod yn ymwybodol o 'issues' ar y pryd.

Ychwanegodd ei fod yn synnu nad oedd gwaith cynnal a chadw wedi cael ei flaenoriaethu'n ôl bryd hynny pan oedd mwy o arian ar gael, yn hytrach na gwariant ar bethau "nice to have" yn Sain Ffagan.

Dywedodd Heledd Fychan AS a ymddangosodd ar y rhaglen hefyd:

"Mae'r rhain yn sylwadau sarhaus a di-sail gan Arweinydd Llafur Cyngor Caerdydd a ddylai wybod yn well a dweud y gwir.

 "Yn union fel sy'n wir gyda'r Gwasanaeth Iechyd, mae patrwm o wleidyddion Llafur yn dod i'r amlwg sy’n beio staff boed hynny yn ein Byrddau Iechyd neu ein sefydliadau cenedlaethol am eu hanallu eu hunain i gydbwyso'r llyfrau mewn ffordd gynaliadwy.

 "Sain Ffagan yw trysor pennaf arlwy ein prifddinas i ddinasyddion ac i ymwelwyr Cymru fel ei gilydd. Mae'n anhygoel clywed Arweinydd Cyngor Caerdydd yn cyfeirio at ddatblygiadau mawr ar y safle - a oedd y Grant Loteri Treftadaeth fwyaf erioed i gael ei ddyfarnu i unrhyw sefydliad yng Nghymru ar y pryd - fel 'nice to have.'

“Dylai Arweinydd Cyngor Caerdydd fod yn bencampwr brwd i arlwy diwylliannol y ddinas. Yn hytrach, mae gennym rywun sy'n hapus i gytuno â phennaeth ei blaid yng Nghymru a amddiffynnodd doriadau ei lywodraeth i Amgueddfa Cymru yr wythnos hon, a hynny'n bygwth cof diwylliannol cyfunol Cymru ymhellach.

"Y peth lleiaf y dylai Huw Thomas ei wneud yw myfyrio ar ei sylwadau ac ymddiheuro."

 

Dyfyniad gwreiddiol gan y Cyngh. Huw Thomas:

“Yn amlwg mae ‘na angen gwario cynnal a chadw ar yr adeilad.

“Un peth sydd yn fy nharo i….fe weda i hyn….ydi rhyw bum mlynedd yn ol fe wariwyd £30m a mwy ar ailwneud Sain Ffagan, prosiect llwyddiannus tu hwnt, ond mae’n rhaid bod y staff oedd yn rheoli’r amgueddfa ar y pryd yn ymwybodol o ‘issues’ yr amgueddfa yng Nghaerdydd bryd hynny.

“Dwi yn pendroni pan ddim blaenoriaethu ar y pryd hynny pan oedd ‘na fwy o arian i ddiogelu’r adeilad yng Nghaerdydd pryd hynny yn lle gwario ar ‘nice to have’ yn San Ffagan.”